Luke 12

Rhybuddion ac anogaeth

1Yn y cyfamser roedd tyrfa yn ymgasglu – miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog. 2Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. 3Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai.

Pwy i'w ofni

(Mathew 10:28-31)

4“Ffrindiau, peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny. 5Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw! 6Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach. 7Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.

Arddel neu wadu Iesu

(Mathew 10:32-33; 12:32; 10:19-20)

8“Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. 9Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi, bydda i'n gwadu o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. 10A bydd pawb sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu'r Ysbryd Glân.

11“Pan fyddwch ar brawf yn y synagogau, neu o flaen y llywodraethwyr a'r awdurdodau, peidiwch poeni am eich amddiffyniad, beth i'w ddweud. 12Bydd yr Ysbryd Glân yn dangos i chi beth i'w ddweud yn y fan a'r lle.”

Stori am ffŵl cyfoethog

13Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu'r eiddo mae dad wedi ei adael i ni. Dywed wrtho am ei rannu.”

14Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu'n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi'ch dau?” 15Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.”

16A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf. 17‘Does gen i ddim digon o le i storio'r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’

18“‘Dw i'n gwybod! Tynnu'r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn. 19Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’

20“Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy'r noson rwyt ti'n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi ei gasglu i ti dy hun?’

21“Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”

Peidiwch poeni

(Mathew 6:25-34)

22Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo. 23Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad. 24Meddyliwch am gigfrain: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nag ysgubor – ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar! 25Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach
12:25 eich bywyd eiliad yn hirach: Neu “eich hun yn dalach”.
drwy boeni!
26Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall?

27“Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. b 28Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? 29Felly peidiwch treulio'ch bywyd yn poeni am fwyd a diod! 30Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi. 31Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.

Trysor nefol

(Mathew 6:19-21)

32“Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi. 33Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha. 34Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.

Bod yn barod bob amser

(Mathew 24:45-51)

35“Byddwch yn barod bob amser; a cadwch eich lampau yn olau, 36fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth. 37Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo – wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta! 38Falle y bydd hi'n oriau mân y bore pan fydd yn cyrraedd, ond bydd y gweision sy'n effro yn cael eu gwobrwyo.

39“Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi ei rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ! 40Rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!”

41Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?”

42Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd. 43Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. 44Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd! 45Ond beth petai'r gwas yn meddwl wrtho'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi? 46Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai sydd ddim yn credu.

47“Bydd y gwas sy'n gwybod yn iawn beth mae'r meistr eisiau, ond ddim yn mynd ati i wneud hynny, yn cael ei gosbi'n llym. 48Ond os dydy'r gwas ddim yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, bydd y gosb yn ysgafn. Mae disgwyl llawer gan y sawl oedd wedi derbyn llawer; ac mae gofyn llawer mwy yn ôl gan y sawl oedd yn gyfrifol am lawer.

Dim heddwch ond rhwygiadau

(Mathew 10:34-36)

49“Dw i wedi dod i gynnau tân ar y ddaear, a byddwn i'n hoffi petai'r gwaith eisoes wedi ei wneud! 50Ond mae gen i brofiad dychrynllyd i fynd trwyddo, a dw i'n teimlo pwysau dychrynllyd nes bydd y cwbl drosodd! 51Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau. 52Bydd teuluoedd yn cael eu rhwygo, tri yn erbyn a dau o blaid, neu fel arall. 53Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!”

Deall yr amserau

(Mathew 16:2-3; 5:25-26)

54Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio. 55Neu pan fydd gwynt y de yn chwythu, dych chi'n dweud, ‘Mae'n mynd i fod yn boeth,’ a dych chi'n iawn. 56Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr?

57“Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn? 58Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar? 59Wir i ti, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.”

Copyright information for CYM